Internship - Investigation of Additive Manufacturing for Space Rated Components
Space Forge Ltd is a UK start-up that is looking to lead the clean industrial revolution by harnessing space. We are developing fully reusable satellites that are designed for manufacturing next generation super materials in space for return to Earth to be used to help move to low carbon technologies. In early 2023 Space Forge has grown to over 50 people and we have built Wales’ first satellite factory in Cardiff. We plan to launch several missions over the next two years.
Project Description:
In the near future Space Forge will be developing its additive manufacturing capabilities in order to design and manufacture components for spacecraft. To achieve this significant progress will need to be made in understanding space standards, manufacturing limitations, and best practices when designing parts for additive manufacturing.
The SPINtern will support in reviewing and implementing processes that will assist Space Forge in their capability to design parts for additive manufacturing. Activities as part of this project will include:
Reviewing and summarising space standards for the design and verification of additive manufactured parts
- Research, design and printing of parts to assess the precision and other limitations of 3D printers
- Design, manufacturing and testing of parts in order to understand the material properties of additive manufactured parts
- The research and implementation of processes and best practices for designing additive manufactured flight hardware
Applicant Specification:
- Is willing and able to learn new skills rapidly via online research and self experimentation
- Has passion for the space and green technology sectors
- Ability to work effectively both individually and in small teams
- Able to write coherent reports and manuals to help others understand their work
- Capable of self-managing time and working to a deadline
- Being comfortable working in person and remotely with diverse teams
- Able to act responsibly and safely in the working environment
Minimum Requirements:
- Are studying or just completed a science-based degree
- Is eligible to work in the UK without a visa
Preferred Additional Requirements:
- Experience with CAD and additive manufacturing
- Knowledge of tolerances for manufacturing
- Knowledge of Space standards such as ECSS
Further details:
8 weeks minimum fixed term contract to be agreed with successful candidate. In person/hybrid Induction Event to be held on 19 June 2023, and an in-person/hybrid Showcase Event to be held at the 2023 UK Space Conference in Belfast between 21 November to 23 November.
***
Interniaeth Space Forge – Ymchwilio Cynhyrchu Adiol ar gyfer Cydrannau Graddfa Ofod
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad Cau: 05/05/2023
Mae Space Forge Ltd yn fusnes newydd yn y DU sy'n edrych i arwain y chwyldro diwydiannol glân trwy harneisio’r gofod. Rydym yn datblygu lloerennau y gellir eu hailddefnyddio'n llawn sydd wedi'u cynllunio ar gyfer gweithgynhyrchu uwch-ddeunyddiau’r genhedlaeth nesaf yn y gofod, ar gyfer dychwelyd i'r Ddaear, i'w defnyddio i helpu i symud i dechnolegau carbon isel. Dros fisoedd cyntaf 2023, mae Space Forge wedi tyfu i dros 50 o bobl ac wedi adeiladu ffatri loeren gyntaf erioed Cymru yng Nghaerdydd. Rydym yn bwriadu lansio sawl cenhadaeth dros y ddwy flynedd nesaf.
Disgrifiad o'r Prosiect:
Yn y dyfodol agos bydd Space Forge yn datblygu ei alluoedd gweithgynhyrchu adiol er mwyn dylunio a gweithgynhyrchu cydrannau ar gyfer llongau gofod. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen gwneud cynnydd sylweddol o ran deall safonau gofod, cyfyngiadau gweithgynhyrchu, ac arferion gorau wrth ddylunio rhannau ar gyfer gweithgynhyrchu adiol.
Bydd yr Intern yn cefnogi adolygu a gweithredu prosesau a fydd yn cynorthwyo Space Forge yn eu gallu i ddylunio rhannau ar gyfer gweithgynhyrchu adiol. Bydd y gweithgareddau sy’n rhan o’r prosiect hwn yn cynnwys:
Adolygu a chrynhoi safonau gofod ar gyfer dylunio a gwirio rhannau gweithgynhyrchu adiol
- Ymchwilio, dylunio ac argraffu rhannau i asesu cywirdeb a chyfyngiadau eraill argraffwyr 3D
- Dylunio, gweithgynhyrchu a phrofi rhannau er mwyn deall priodweddau materol rhannau gweithgynhyrchu adiol
- Ymchwilio a gweithredu prosesau ac arferion gorau ar gyfer dylunio caledwedd hedfan gweithgynhyrchu adiol
Manyleb Ymgeisydd:
Yn fodlon ac yn gallu dysgu sgiliau newydd yn gyflym trwy ymchwil ar-lein a hunan-arbrofi
- Yn angerddol am y sectorau gofod a thechnoleg werdd
- Y gallu i weithio'n effeithiol yn unigol ac mewn timau bach;
- Yn gallu ysgrifennu adroddiadau a llawlyfrau cydlynol i helpu eraill i ddeall eu gwaith;
- Gallu hunanreoli amser a gweithio i derfyn amser;
- Yn gyfforddus yn gweithio wyneb yn wyneb ac o bell gyda thimau amrywiol;
- Gallu gweithredu'n gyfrifol ac yn ddiogel yn yr amgylchedd gwaith;
Gofynion sylfaenol:
Yn astudio neu newydd gwblhau gradd gwyddonol
- Yn gymwys i weithio yn y DU heb fisa
Gofynion dymunol ychwanegol:
Profiad gyda CAD a gweithgynhyrchu adiol
- Gwybodaeth am oddefiannau ar gyfer gweithgynhyrchu
- Gwybodaeth am safonau Gofod megis ECSS
Manylion pellach:
Cytundeb cyfnod penodol o leiaf 8 wythnos i'w gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus. Digwyddiad Sefydlu Personol/hybrid i'w gynnal ar 19 Mehefin 2023, a Digwyddiad Arddangos personol/hybrid i'w gynnal yng Nghynhadledd Gofod y DU 2023 yn Belfast rhwng 21 Tachwedd a 23 Tachwedd.